Geiriadur Cymraeg – Almaeneg Canllaw ar gyfer defnyddwyr

undefined

 

Mae’r Geiriadur Cymraeg – Almaeneg yn eiriadur ar-lein sydd wedi cael ei baratoi ar gyfer helpu myfyrwyr i ddysgu iaith dramor drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae rhyngwyneb y geiriadur yn ei gwneud hi’n hawdd dod o hyd i gyfieithiad o eiriau penodol o’r Gymraeg i’r Almaeneg ac o’r Almaeneg i’r Gymraeg ac mae ganddo sawl swyddogaeth ddefnyddiol arall sy’n cael eu hegluro yma.

Y Bocs Chwilio
Rhowch air yn y bocs chwilio.  Gallwch chi roi gair Cymraeg neu air Almaeneg – yn dibynnu ar yr iaith rydych chi’n ei defnyddio ar gyfer chwilio.

Y Botwm Chwilio
Cliciwch ar y botwm mawr gwyrdd er mwyn dangos canlyniad eich chwiliad. Bydd statws y botwm iaith yn effeithio ar ganlyniad y chwiliad. Er enghraifft,  dylai gair Cymraeg yn y bocs chwilio gyfateb i statws  “Cymraeg - Almaeneg” yn y botwm dewis iaith.  Bydd y geiriadur yn dangos canlyniad y chwiliad yn yr iaith gywir cyhyd ag y bydd yr iaith briodol wedi cael ei dewis.

Y Botwm Iaith
Bydd y botwm dewis iaith yn penderfynu ym mha iaith y bydd canlyniad y chwiliad yn ymddangos.

Y Botwm Symbolau Arbennig
Mae’r iaith Gymraeg yn defnyddio toeon bach ar y llafariaid yn aml. Mae’n anodd dod o hyd i’r rhain ar allweddell Saesneg safonol, felly mae’r botwm cyfleus hwn yn caniatáu i’r defnyddiwr ddod o hyd i’r to bach ar y llythyren yn gyflym a’i roi yn y bocs chwilio drwy glicio arno.

Y Botwm Gemau
Mae tair gêm yn dod gyda’r geiriadur. Pwrpas pob gêm yw helpu gydag adnabod a deall ystyr geiriau.  Byddwch chi’ n gallu gweld y gemau drwy glicio ar y botwm Gemau – bydd dewislen yn ymddangos. Y tair gêm yw Croeseiriau, Chwilair a Crogwr.

Y Botwm Berfau
Mae angen egluro llawer o ferfau unrhyw iaith yn fanylach. Bydd y botwm hwn yn rhoi canllaw byr ar sut i ddefnyddio berfau a’u lleoliad mewn brawddegau. O ddefnyddio’r tabl yn effeithiol, byddwch yn gwybod pa ferf i’w defnyddio a phryd i’w defnyddio.

Bydd y rhyngwyneb yn newid ar ôl i chi gyflwyno chwiliad.  Bydd canlyniad y chwiliad yn ymddangos ynghyd â bocs chwiliad cyflym ar gyfer gwneud chwiliadau eraill. Yn ogystal, mae man llywio, sy’n eich galluogi chi i fynd yn ôl i’r brif dudalen yn gyflym.

 

undefined